Torri Record Arall Ym Mart Llanybydder Ddoe

Adroddiad Mart Dydd Sadwrn 11eg o Fehefin

Ffion Caryl Evans
gan Ffion Caryl Evans

Torrwyd record arall ym mart Llanybydder ddoe yn yr adran da stôr wrth i eidon o eiddo George, Tyllo werthu am £1880.

Roedd y prisiau eraill fel y ganlyn..

Aner orau – £1650 o eiddo James, Gilfach

Buwch mewn llo orau – £970 o eiddo Williams, Cwmhwplin

Buwch orau – £1400 o eiddo George, Ynyscniw

Buwch a llo gorau – £1820 o eiddo Jones, Meysydd

Er bod llai o wartheg yn y farchnad heddiw, fe werthwyd pob anifail am brisiau arbennig o dda ac roedd galw am bob math o wartheg.

Y 9fed o Orffennaf fydd yr arwerthiant gwartheg nesaf felly cofestrwch eich stoc cyn gynted ag sy’n bosib.

Hoffai Evans Bros ddiolch i bawb boed yn prynwyr neu yn werthwyr am eu cefnogaeth cyson i’r farchnad yn ogystal â staff y farchnad am sicrhau bod popeth wedi rhedeg mor llyfn.

Cofiwch am ein dathliad ar y 25ain o Fehefin ym Mart Llanybydder. Byddwn yn dathlu 125 o flynyddoedd mewn busnes. Bydd bwyd, bar ac ocsiwn i godi arian i elusennau ar y noson felly dewch i ddathlu gyda ni. Mae tocynnau ar gael ym mhob swyddfa am £10.

Gallwch ddarllen hanes diddorol cwmni Evans Bros gan Gwyneth Davies yn rhifyn Mehefin Papur Bro Clonc sydd ar werth nawr yn y siopau lleol neu ar gael i danysgrifio’n ddigidol ar wefan Clonc.