Holl hanes ardal Clonc360 mewn un man

Fideo o holl straeon Clonc360 2023

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Wel, dyma flwyddyn arall ar ben a gwynt teg ar ei hôl yw barn llawer tra gwelodd eraill lewyrch a llawenydd yn ystod 2023.

Wrth wylio’r fideo 25 munud o hyd hwn cewch eich atgoffa o dros 300 o straeon a gyhoeddwyd ar wefan Clonc360 yn ystod y flwyddyn.

Cyhoeddwyd blogiau byw o ddigwyddiadau fel eisteddfodau, sioeau a Rali CFfI.  Torrwyd ambell newyddion lleol a chofnodwyd cyrhaeddiadau chwaraeon, prisau’r mart, hanesion lleol, yn ogystal â’r llon a’r lleddf.

Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu straeon, boed hynny ar ffurf fideo, blog, lluniau neu destun.  Hyfryd oedd gweld bod pedair stori gan wefan Clonc360 yn rhan o 10 prif stori’r holl wefannau bro yn ystod 2023.

Edrychwn ymlaen felly i 2024 fel y gall gwefan Clonc360 ynghyd â Phapur Bro Clonc barhau i hybu Cymreictod a thwf yn y nifer o bobl sy’n darllen Cymraeg.  Mae’r ddau gyfrwng yn ein cynorthwyo ni i adnabod ein bro a’n pobl yn well yn ogystal â sbarduno gweithgareddau cymdeithasol o bob math.

 

Dyma’r trydydd fideo o’i fath.  Cyhoeddwyd un ar ddiwedd 2021 ac ar ddiwedd 2022 hefyd.

Blwyddyn newydd dda i bawb.  Beth am wneud adduned blwyddyn newydd i gyfrannu mwy o luniau, fideos a straeon i wefan Clonc360 yn 2024?