On’d oedden nhw’n ddyddiau da?

Cyfle i ddarllen mwy o hanesion hen Ysgol Llanybydder.

gan Gwyneth Davies
Hen Ysgol Llanybydder

Ann Jones, Tim Davies, Meryl Davies, Gary Rees, Eirlys Jones a Daryl Thomas sy’n cyfrannu’r mis hwn.

Y 1940au/50au
Ann Jones

Mr A.J. Thomas, Dolau View oedd y prifathro pan o’n i yn yr ysgol a ’dw i’n cofio Miss Jones Emporium yn ein dysgu hefyd, yn ogystal â Gweni Jones, a oedd yn lletya gyda Tommy Barbwr. Mae gen i nifer o atgofion am yr ysgol, ac am un gyngerdd Nadolig yn arbennig. Fe fyddai’r ‘partition’ yn cael ei agor pan fyddai cyngherddau, a phawb yn cymryd rhan—o’r lleiaf i’r mwyaf. ’Dw i’n cofio un gân ganon ni un flwyddyn a ’dw i hefyd yn cofio pwy oedd yn actio ambell ran:

Y Siopwr Enwog

Fi yw gŵr y siopwr enwog (Vivian Evans)
A fi yw gwraig y siopwr enwog (fi)
Ni yw plant y siopwr enwog (ddim yn cofio pwy o’n nhw)
Prynwch gyda ni.

Sanau silc a chadachau gwynion
Crêpe-de-chine a chrysau i ddynion.
Hetiau tal a menig gwynion
Prynwch gyda ni.

O ran chwaraeon iard, ro’n ni’n chwarae ‘I sent a letter to my friend’; ‘Faint o’r gloch yw hi, Mr Blaidd?’; Mewn a mas drwy’r ffenest (x3) a chyfrif un, dau, tri; sgipio; a chwarae pêl yn erbyn y wal.

Fe fydden ni hefyd yn mynd ar ‘ramble’ gan fynd weithiau i gyfeiriad Tŷ Mawr a dysgu enwau coed, llysiau ac adar. Ro’n ni wedi blino’n lân erbyn cyrraedd nôl i’r ysgol gan ei bod yn dipyn o gamp i draed bach ddilyn athrawon. Fe fydden ni’r plant hŷn yn mynd i ardd Mr Thomas y prifathro yn yr haf, i godi’r afalau yn y berllan.

Mrs Farmer, Mrs Price, Lizzi Jacob a May Hughes oedd yn coginio ac roedd y bwyd yn flasus a digon ohono fe. Pe bai un o’r cogyddion yn sâl, yna mam fydde’n llenwi’r bwlch. Daeth Mari Rees, Myrddin House, i mewn i’r ysgol unwaith i roi neges bwysig i Mr Thomas. Roedd hi’n golygu rhoi’r simnai ar dân, medde hi, ac am ein rhybuddio rhag ofn y byddai rhywun yn cael ofn. Dyna sut oedd hi’n glanhau’r simnai! Roedd defnyddio clwtyn, lamp olew a matsien yn helpu i losgi popeth bant. ’Doedd neb yn dod i mewn i’r dosbarth heb gnocio yn gyntaf, a’r plant i gyd wedyn yn gweiddi fel côr yn Saesneg, ‘Somebody at the door, Sir.’

Mari Gregina oedd yn glanhau yn y 40au ac fe fyddai’r ast yn dod gyda hi bob dydd, gan ddod drwy’r caeau. Bob bore, eisteddai tu fas yn disgwyl Mari i wneud ei dyletswyddau, ac yna yr un patrwm eto gyda’r nos pan fydde hi’n dod i lanhau. Ond cyn mynd adre fe fydde’n rhaid cael clonc ym Myrddin House.

Mam ddilynodd Mari ac roedd gen innau ran bwysig hefyd. Ro’n i’n arfer helpu. I ddechrau, fe fyddai mam yn rhoi ‘DYSMO’ ar y llawr. Yna, defnyddiai frws er mwyn sgubo popeth yn lân. Roedd y ‘DYSMO’ ’ma yn rwff ac yn debyg iawn i dywod. Gorchwyl arall oedd gyda ni oedd llenwi’r bwcedi glo a dod â’r coed tân i mewn yn barod erbyn y bore. Roedd y coed a’r glo yn y sied ar waelod yr iard ac roedd angen tri neu bedwar bwced o lo ar y stôfs i bob ystafell. Yr unig dro y byddai’r coed yn cael eu defnyddio oedd i gynnau’r tân y peth cyntaf yn y bore. Roedd ‘guard’ fawr drwchus o haearn wedyn o gwmpas y tân i amddiffyn pobl rhag llosgi. Roedd disgwyl i fi weithio’n galed yn ystod y gwyliau os oedd angen arian poced arna i. Fi oedd yn golchi’r ‘ink wells’ i gyd ac roedd hwnnw, credwch chi fi, yn dipyn o job. Yn gyntaf, rhaid oedd eu rhoi nhw mewn bwced ym mhôrtsh y bechgyn gan adael y tap dŵr i redeg drostynt. Codi nhw allan i’r sinc wedyn gan eu sychu bob yn un, a’u rhoi nôl yn y desgiau. Pan o’n i yn yr ysgol uwchradd ac eisiau digon o arian i fynd i’r ddawns ar nos Sadwrn gyda ffrindiau, bydde’n rhaid i fi lanhau’r ‘partitions glass’ rhwng y dosbarthiadau. ’Doedd arian ddim yn dod yn rhwydd a rhaid oedd gweithio amdano.

Y 1960/70au

Yr athrawon yn y cyfnod hwn oedd Mrs Shale, Miss Thomas, Bontom, Llanllwni a’r prifathro oedd Irvon Thomas.

Tim Davies

Y peth cynta’ sy’n dod i’m meddwl i yw’r ffwrn dân i gynhesu pob ystafell. Roedd ‘guard’ wedyn o’u cwmpas i amddiffyn y plant rhag llosgi. I mi, fel plentyn, roedd pob ystafell yn ymddangos yn eitha’ mawr. Bwrdd du a sialc, wrth gwrs, oedd yno yr adeg honno. Y desgiau wedyn mewn rhesi—rhai brown gyda chlawr ar bob desg, ac oddi mewn ro’n ni’n cadw’r llyfrau. Roedd yr ‘ink wells’ ar ochr dde’r desgiau ac roedden nhw’n gallu bod yn frwnt iawn, ond roedd ‘blotting paper’ gyda ni. ’Dw i’n cofio’r adeg y gwnaethon ni symud i feiros. Un darn plastig glas o’n nhw ac yn drwchus ar y gwaelod gan fynd yn gulach wrth fynd i fyny.

Roedd disgyblaeth lem yr adeg honno ac fe gelech chi gosfa os na fyddech chi’n bihafio. ’Dw i’n cofio disgybl yn siarad un tro yng nghefn y dosbarth, a’r peth nesaf dyma gwlffyn mawr o sialc yr iard yn hedfan i’w gyfeiriad. Arferwn i fynd â hen botel foddion gyda fi i’r ysgol, ac roedd wedi cael ei llenwi gyda ‘squash’. Ro’n i’n rhoi’r ‘squash’ wedyn yn y dŵr amser cinio heb i neb wybod achos ’do’n i ddim yn hoffi blas y dŵr. ’Do’n i ddim yn mynd at ddeintydd yr ysgol. Yn hytrach, roedd mam yn mynd â fi at y deintydd yn y clinig. ’Dw i’n cofio bord gyda lliain gwyn drosti yn ystafell y deintydd, gyda’r ‘tools’ i gyd wedi eu rhestru yno. Roedd hynny’n ddigon i hala ofn ar unrhyw blentyn. Os oedd angen nwy arnoch, yna fe fydde’r masg yn cael ei roi dros eich wyneb ac fe fydden nhw’n dweud wrthoch am gyfrif i ddeg. Roedd angen bach o amser wedyn i ddod rownd, ond ar ôl mynd adre roedd rhywbeth arbennig fel jig-so yn fy nisgwyl bob tro gan i mi fod yn fachgen da yn y deintydd.

Meryl Davies

Un o’r atgofion sydd gen i yw rhedeg rownd cornel yr ysgol amser chwarae gan fwrw mewn i blentyn arall ac achosi i’w drwyn waedu. Damwain oedd hi ond ges i dipyn o row gan Mrs Shale. ’Do’n ni ddim yn cael mynd i’r cae yn aml iawn, ond yn yr haf ro’n ni’n gwneud tipyn o ddefnydd ohono, yn enwedig adeg y mabolgampau, a ’dw i’n cofio’n arbennig am y pit tywod a oedd yno. Yn y blynyddoedd cynta’ o’n i yn yr ysgol, fe fydde’n rhieni ni’n dod â rhywbeth i’w fwyta i ni amser Mabolgampau. Ond erbyn y blynyddoedd olaf, roedd y fan hufen iâ yn galw.

Fe gawson ni wersi beic yn yr ysgol, a minnau’n meddwl ’mod i’n ferch fawr gan fy mod i’n cael reidio’r beic o fy nghartref yn Hafan Deg (a oedd ar bwys yr Albion), lan i’r ysgol. Y ‘cooks’ bryd hynny oedd Sally Beehive a Verona Farmer. Cawsai’r plant hynaf ‘seconds’ ar eu diwrnod olaf yn yr ysgol a rhoddwyd treiffl i bawb hefyd. Fy nghas bwdinau i oedd sego a semolina.

Un flwyddyn, fe wnaethom sgets ‘Fo a Fe’ mewn cyngerdd. Fi oedd yn chwarae rhan Ryan Davies (Twm Twm), Eifion Glanduar oedd Ephraim, Sharon oedd Diana a Charles Evans oedd George. Tim wedyn oedd yn dweud wrth y gynulleidfa ar y diwedd am gofio tiwnio i mewn yr wythnos ganlynol gan ofyn cwestiynau ‘rhetorical’ iddynt. Yn ystod fy mlwyddyn olaf yn yr ysgol, aethon ni i Bentywyn a ’dw i’n cofio canu ‘Kumbaya my Lord’ o gwmpas coelcerth gyda’r nos.

I ddysgu beth oedd gan Gary Rees, Eirlys Jones a Daryl Thomas i’w rannu â ni, mynnwch gopi cyfredol o bapur bro Clonc.