On’d oedden nhw’n ddyddiau da?

Pam Burk sy’n rhannu ei hatgofion â ni’r mis hwn.

gan Gwyneth Davies
Compton Stores

Des i a Mike fy ngŵr i fyw i Lanybydder ym mis Awst 1972. Ro’n ni’n byw yn Windsor cyn hynny ac yn awyddus i ddechrau ein busnes ein hunain. Roedd byw yng Nghymru yn apelio’n fawr ac felly dechreuon ni chwilio am le addas. Gyda lwc, fe ffeindion ni ‘Compton Stores’ a oedd yn siwtio’r boced i’r dim. Cyril a Jean Speak oedd berchen y siop cyn hynny. Ro’n ni’n gwerthu ‘groceries’ yma ac ar un adeg yn gwerthu cig ffres hefyd. Ro’n ni’n sleisio bacwn ac yn gwerthu pysgod ffres ar Ddydd Mawrth.

Mae ‘Compton’ yn dri llawr ac mae e’n fwy nag y mae rhywun yn ei feddwl. Roedd y siop ar y llawr cyntaf ac ar ôl ymddeol fe droeson ni’r siop yn ystafell fyw. Mae cegin ac ystafell fyw arall ar y llawr gwaelod a’r ystafelloedd gwely wedyn ar yr ail lawr. Mae’r cyfan yn gweithio’n hwylus dros ben. Roedd Johnny Wenallt â siop Martelva ar waelod y pentref ac roedd rownd bapurau gydag e a phan oedd e’n barod i ymddeol yn 1973, fe brynon ni’r rownd bapurau oddi wrtho. Er ein bod ni’n gweithio yn y siop, bu sawl person arall yn ein helpu hefyd dros y blynyddoedd. Mike fel arfer oedd yn dosbarthu’r papurau yn ystod yr wythnos ac yna roedd ‘paper boys’ gyda ni ar y penwythnosau ac yn ystod gwyliau’r ysgol. Ro’n ni’n gwerthu papurau ym mhentref Llanybydder, Alltyblaca a ‘Tŷ Mawr’. Yn ystod y saith neu wyth mlynedd ddiwetha, ro’n ni hefyd yn dosbarthu yn Llanwnnen a hynny ar ôl i’r Swyddfa Bost yno gau. A dweud y gwir, fe fuon ni’n gwerthu yn Rhuddlan a Brynteg am gyfnod hefyd. Mae mwy i ddosbarthu papurau nag y mae rhywun yn ei feddwl. Doedd nifer o’r henoed ddim yn gweld neb ar hyd yr wythnos, ac felly ro’n nhw’n disgwyl ymlaen i’n gweld ni er mwyn cael sgwrs â rhywun. Fe fyddai pobl yn aml yn gadael eu drysau ar agor ac fe fydden ninnau wedyn yn cerdded i mewn ac os nad oedden ni’n gweld preswylwyr y tŷ, yna fe fydden ni’n gadael y papurau yn y gegin neu yn yr ystafell fyw.  Ro’n ni’n dechrau dosbarthu papurau am 6 yn y bore. Unwaith y bydde’r Western Mail yn cyrraedd am hanner awr wedi 5, yna ro’n ni’n paratoi i ddechrau ar y rownd. Anodd credu yr arferai’r Western Mail gael ei brawf ddarllen yn India. Fe fyddai papur Llundain yn cyrraedd ar y bws 9 o’r gloch a oedd yn stopio tu allan i Westy’r Crosshands a bydden ni dosbarthu hwnnw wedyn.

Ro’n ni’n derbyn y Cambrian News fel arfer ar nos Fercher ac felly, ar agor yn hwyr y noson honno. Ond yna, dechreuodd y Cambrian News gyrraedd yn hwyrach bob wythnos ac yn y diwedd fe benderfynon ni gau ynghynt. Roedd Johnny Wenallt beth bynnag yn dymuno cael ei bapur e ar nos Fercher ac felly fe fydde fe’n eithriad ac yn dod lan i’w gasglu yn hwyrach yn y nos. Un noson, cyn iddo gael cyfle i gnocio ar y drws, roedd Mike eisoes wedi sylwi ei fod wedi cyrraedd. Heb feddwl dim, fe ddywedodd wrtho i gan regi ‘ O mae Johnny ‘ma. Mae e’n gallu bod yn real niwsans!’(Wel- gair yn dechrau gyda ‘b’ ddefnyddio e go iawn!)  Pan agoron ni’r drws i Johnny a holi iddo ddod i mewn, y peth cyntaf ddywedodd ein mab oedd, ‘Mae dad newydd ddweud eich bod chi’n real niwsans.’ Chwerthin gwnaeth Johnny diolch i’r drefn gan weld yr ochr ddoniol. Lwcus ein bod ni’n nabod ein gilydd yn dda ac yn ffrindiau mawr achos fe allai pethau fod yn lletchwith iawn!

Anghofia i fyth y diwrnod hynny pan aethon ni’n dau i ddosbarthu papurau yn ardal Rhydybont. Ro’n ni’n wrthi yn dosbarthu mewn gwahanol dai pan yn sydyn, glywes i sŵn rhywun yn gweiddi ‘Pam, Pam!’ Sylweddolais yn syth mai Mike oedd e ond roedd e’n swnio’n bell iawn. ‘Rhyfedd’, meddyliais i wrth fy hunan. Bant â fi felly ar ras i chwilio amdano. Roedd e’n bwriadu mynd â phapur i ‘Rhydybont Farm’ ond tu allan i’r fynedfa roedd ‘manhole’ a chredwch chi fyth beth oedd wedi digwydd. Rhywsut neu gilydd roedd e wedi syrthio i mewn iddo a dim ond rhan uchaf ei gorff ro’n i’n gallu gweld. Chafodd e ddim dolur diolch byth!

Os hoffech wybod mwy am ‘Compton Stores’, mynnwch gopi cyfredol o bapur bro Clonc.