On’d oedden nhw’n ddyddiau da?

Atgofion diddorol Mattie James, a fu’n gweithio yn Fferyllfa, Llanybydder am flynyddoedd.

gan Gwyneth Davies

Tybed a wyddoch chi mai tafarn oedd adeilad y Fferyllfa ar un adeg?  Ei enw yn ôl pob sôn oedd ‘The Railway Hotel’ ond roedd hynny cyn fy amser i wrth gwrs.

Mr John James Davies oedd y fferyllydd cyntaf dw i’n ei gofio yno pan o’n i’n blentyn yn y 50au ac fe’i hadnabu gan bawb fel Mr Davies Chemist. Roedd ei ferch Vera yn gweithio yno hefyd ac yn cynorthwyo ei thad yn feunyddiol.

Ym mis Medi 1964 y dechreuais i weithio yn y fferyllfa ac erbyn hynny, Miss Nanna Williams oedd y perchennog.  Roedd pob math o bethau’n cael eu gwerthu yno’r adeg honno – meddyginiaethau anifeiliaid, hadau’r ardd, stampiau, trwyddedi pysgota, sigaréts, poteli alcohol a chartridges ar gyfer drylliau.

Ro’n ni’n gwerthu finegr, Metholated Spirit a sieri yn ‘loose’ yno hefyd a byddai pobl yn dod â photeli eu hunain i’r siop i gael eu llenwi gyda ni.  Dw i’n cofio’n iawn mai 7 swllt chwe cheiniog oedd pris potel sieri. Os oedd ceiniog sbâr gyda chi wedyn, gallech bwyso eich hunan ar y ‘scales’ tu fas.

Pan arferai’r ffair ddod i Lanybydder a gwaelod y pentref yn llawn stondinau, roedd fan sglods o flaen y banc NatWest ac ro’n nhw’n cael dŵr o’r tap a oedd gyda’r fferyllfa y tu allan yn y cefn.

Pan ddechreuais i weithio yn y fferyllfa, roedd popeth tu fewn y siop yn bren brown tywyll ac roedd safle popeth yn hollol wahanol. Dw i’n cofio’n iawn am y teils coch a du a oedd ar y llawr gan i mi eu glanhau droeon.

Ym 1994 wedyn, prynodd Annwyl Jeremiah y Fferyllfa a chafodd yr adeilad ‘mecover’! Hi oedd y fferyllydd hefyd. Adeiladwyd estyniad yn y cefn bryd hynny a chydag amser, cafwyd ‘consulation room’ newydd ac roedd modd i chi siarad â’r fferyllydd yn breifat pe dymunech.

Gwerthwyd anrhegion o bob math yno gyda digonedd o ddewis ar gyfer y Nadolig. Ond doedd pob un ddim yn gallu cyrraedd y siop wrth reswm ac felly dechreuon ni feddwl sut y gallen ni eu helpu nhw. Roedd iechyd preswylwyr yr Annedd ac Allt-y-mynydd yn fregus ac roedd nifer yn anabl hefyd. Doedd dim gobaith ganddyn nhw i ddod lawr i siopa aton ni. Felly penderfynon ni fynd atyn nhw. Kathy Daniels a minnau gafodd y gwaith a bant â ni â llond car o anrhegion gan roi cyfle i’r preswylwyr a’r staff brynu’r hyn a ddymunent. Roedd hi’n gyfle i ddod ag ychydig o ysbryd yr ŵyl iddyn nhw hefyd adeg y Nadolig.

Mae gen i atgofion melys am y fferyllfa ac mae sawl stori ddoniol yn dod i’r meddwl. Un diwrnod, daeth cwsmer i’r siop yn holi a oedden ni’n gwerthu jar gyda dolen. Edrychais i’n syn arno gan nad oedd syniad y byd gen i beth oedd ystyr y gair ‘dolen’. Ond lwcus, roedd Ann Jones Gwarduar yn gweithio yno gyda fi ar y pryd ac roedd gwell Cymraeg ganddi hi na fi. Tra fy mod i’n pendroni am y peth ac yn methu’n lân â deall beth oedd e wedi holi amdano, dyma Ann yn ateb yn syth ‘Oes, dyma nhw.’ Buan y sylweddolais i mai potel ddŵr poeth gyda ‘handle’ oedd ganddo mewn golwg! Chwarae teg i Ann am ddod i’r adwy.

Dw i’n cofio am gwsmer arall yn holi a o’n ni’n gwerthu Radox ac a fyddai’n iawn iddo roi ei draed ynddo. Bobol bach- lot o storïau doniol. Pan oedd Mrs Jeremiah yn berchen y fferyllfa, Kathy Daniels oedd yn dosbarthu’r meddyginiaethau i bobl yn eu cartrefi – y bobl hynny oedd yn methu dod aton ni wrth gwrs! Ro’n i a Jill Evans yn gwneud yn achlysurol hefyd. Heather Jones wnaeth y gwaith ar ôl i Kathy orffen.

Pan ddaeth hi’n amser i Mrs Jeremiah ymddeol, cymerodd Gareth James drosodd gyda Richard Merriman yn fferyllydd a rheolwr. Co-op ddilynodd ac fe barhaodd Richard yn ei swydd. ‘Wells Pharmacy’oedd yn rhedeg y lle wedyn gyda Gwenan yn fferyllydd a Nia Evans yn rheolwraig. Mae yna fferyllydd newydd yno erbyn hyn.

Bues i’n gweithio yn y Fferyllfa am gyfnod hir gan fwynhau pob munud. Dechreuais ym mis Medi 1964 gan adael wedyn yn Ionawr, 1974. Yna des nôl ym Medi 1993 a gorffennais yn Ebrill 2018. Felly 35 mlynedd i gyd. Ro’n i’n nabod pobl yr ardal gan fy mod wedi cael fy magu yn Llanybydder ac roedd hynny yn bendant yn help mawr. Amser hapus oedd hi!

Er mwyn darllen atgofion Kathy Daniels, mynnwch gopi cyfredol o bapur bro Clonc.