Yn ogystal â Neuadd Lloyd Thomas ac Undeb y Myfyrwyr, beth am ymweld â thafarnau’r dref yn ystod Eisteddfod Rhyng-golegol Prifysgol y Drindod Dewi Sant yn Llanbed y penwythnos hwn?
Dyma addasiad o beth a ysgrifennodd Alwyn Evans am dafarnau Llanbed bedair blynedd yn ôl:
Erioed wedi pendroni pa dafarnau sydd yma’n Llambed i fynd i fwynhau ynddynt? Pa rai sy’n cynnig beth? Dyma i chi flas ar dafarnau mwyaf poblogaidd tref Llambed, a beth sydd i’w gynnig ar drothwy’r Eisteddfod Ryng-Golegol.
Clwb Rygbi
Wrth yfed yn y Clwb Rygbi, ar Ffordd y Gogledd (a adnewyddwyd yn y blynyddoedd diwethaf), mae ‘na ddigon o le i grwpiau mawr o fyfyrwyr! Mae’r Clwb Rygbi’n lle bendigedig i yfed ar Nos Wener neu Nos Sadwrn, gyda gwahanol gemau yn cael eu chwarae drwy’r amser a’r cwrw’n fendigedig! Byddwch wir yn mwynhau’r Clwb Rygbi!
Bush
‘Alchohol! Because no good story ever began with a salad!’ – Dyma’r arwydd tu allan i’r Bush, sydd ar y sgwâr yng nghanol y dre’, a dyma i chi dafarn lle cewch yfed gwerth eich arian a mwynhau wrth glywed y Jukebox. Y Bush fydd un o’r llefydd rhataf gan fod fodca a lemonêd dan £2 fel arfer – bargen! Hefyd, bob nos Wener mae ‘na Karaoke yn y Bush, lle allwch ganu’r hen glassics neu’r caneuon mwya’ diweddar! Mae ‘na rywbeth i bawb yma!
The Royal Oak
Yn wir, yr Oak yw un o’r llefydd gorau! Dyma i chi un o lefydd gorau yn nhref Llambed. Mae’r Oak yn un o’r llefydd cŵl am gerddoriaeth ac mae’r awyrgylch glos yn denu pawb i yfed cwrw da a chymdeithasu. Dyma un o’r llefydd gorau i fod ar ddiwedd eich noswaith, cyn y ‘loc in’! Lle perffaith ar gyfer myfyrwyr!
Llain y Castell (Castle Green)
Mae ‘na dafarn boblogaidd iawn yn Llambed sy’n dipyn o gyfrinach gudd, sef Llain y Castell ar Heol y Bryn! Mae awyrgylch y dafarn yn un hamddenol iawn, yn lle tawel, ond yn chwarae cerddoriaeth gytbwys at ddant pawb! Mae prisiau Llain y Castell yn rhai rhad hefyd, yn cynnwys amrywiaeth o ddiodydd a bwyd cartref!
Nags Head
Dyma eto un o’r llefydd gorau yn Llambed, sydd ar Stryd y Bont. Newydd agor mae Nags yn y dref hefyd, gyda’r adnewyddiad yn gwneud awyrgylch y dafarn yn un gyfeillgar gyda phawb yn hapus. Unwaith eto mae ‘na Jukebox yn y Nags gyda’r cyfle i ganu’n wyllt drwy’r nos! Cewch amser cofiadwy gyda’ch ffrindiau yma!
Dyma i chi deimlad o beth sydd yn nhafarnau Llambed. Bydd gennych ddigon o ddewis, ac mae ‘na rywbeth i bawb, gyda’r tafarnau a’r llefydd bwyd yn gyfeillgar a chroesawgar iawn, ac ond tafliad carreg o leoliad yr Eisteddfod Ryng-Gol. Byddwch siŵr o fwynhau a chreu atgofion difyr y byddwch yn cofio am weddill eich oes!
Tafarn y Castell – Yn anffodus mae’r Castle ar y Stryd Fawr wedi cau erbyn hyn.
Llew Du – Gellir cael diod yng Ngwesty’r Llew Du ar y Stryd Fawr hefyd, ond datblygwyd y lle yn y blynyddoedd diwethaf ar gyfer gweini bwyd yn bennaf.
Clwb Minds Eye – Datblygiad cyffrous i Lanbed oedd ail agor Clwb y Cware o dan enw Minds Eye y llynedd. Byddai’n werth mynd am dro yma gan ei fod wedi ei leoli ger y Clwb Rygbi.
Gallwch lawrlwytho map Bwytai a Thafarnau Llanbed yma: Bwytai a Thafarnau Llanbed.