SANTA’N CYRRAEDD YN GYNNAR

Mae’r Nadolig wedi cyrraedd yn gynnar yng Nghribyn!

gan Elliw Dafydd
Ysgol-Cribyn

Mi fydd yr arian yn help i ail-doi yr ysgol yn ogystal a’i phrynu.

Alan-yn-diolch

Alan Henson, Cadeirydd menter Ysgol Cribyn.

Mae’r Nadolig wedi cyrraedd yn gynnar yng Nghribyn gyda’r newyddion, yr wythnos hon, fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £195,000 i brosiect yr ysgol. ‘Dyma beth yw anrheg Nadolig sbesial’ oedd ymateb Alan Henson, cadeirydd y fenter. ‘Amser hyn llynedd mi o’dd llawer ohono ni’n becso gallai’r ysgol gael ei gwerthu a’i cholli am byth i’r pentre . Diolch i’r penderfyniad hwn, ac i’r holl gydweithio llawen a llwyddianus dros y flwyddyn ddiwetha’, dwi’n credu gallwn ni edrych mla’n yn hyderus nawr at y flwyddyn newydd!’ meddai.

Wrth i gyfnod covid ddod i ben mi oedd pethe’n edrych yn eitha tywyll yng Nghribyn. Nid yn unig o’dd covid wedi rhoi stop ar gymaint o bethe, ond mi o’dd Ceredigion wedi llenwi’r ysgol â stwff PPE gan adael mond y stafell ddosbarth leia ar gyfer cynnal pethe. Medd Alan: ‘O’dd raid i ni ’neud rhywbeth neu fydde’i wedi bod yn a-men ar fwrlwm y pentre!’

Dan arweiniad Cymdeithas Clotas – mudiad a sefydlwyd yn 2009 i wrthweithio effeithiau cau’r ysgol – ymateb yn gadarnhaol wnaeth y gymdogaeth. Fis Ionawr eleni, pwyswyd yn llwyddianus ar gabinet Ceredigion i roi cyfle i’r pentre ei phrynu. Yna, rhwng Ebrill a dechrau Mai codwyd dros £70,000 gyda 64% o’r swm hwnnw’n dod o gymdogaeth Cribyn a’r cyffiniau agos. A thra’n aros am benderfyniad Llywodraeth Cymru mae’r bwrlwm newydd yng Nghribyn wedi gweld sefydlu clwb te deg llewyrchus (bob bore dydd Mawrth yn yr ysgol), gŵyl newydd (Gŵyl Werin Ffos Davies) ynghyd â gwasanaeth bws bro newydd (Y Siarabang-bang!) i lenwi’r bwlch a adawyd gan Bwcabus.

Daw’r gefnogaeth o £195,000 i’r ysgol o gronfa Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru. Ond fydd yr arian ddim ar gael tan mis Ebrill, sef dechrau’r flwyddyn ariannol nesa. ‘O’s. Ma’ sbel o ffordd ‘da ni i fynd ’to’ medd Alan. ‘Bydd ise sawl can mil arall at ail-doi’r ysgol a’r holl welliannau eraill. Ond, o gofio fel o’dd pethe mond blwyddyn yn ôl, mae’n dechrau siapo ’ma nawr.’

Oes gan Alan air bach ola’ ar gyfer darllenwyr Clonc360?

‘O’s’ meddai. ‘Nadolig Llawen i chi gyd a diolch i Santa a phawb ohonoch am bob cefnogaeth!’

Dweud eich dweud