Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal Clonc360.
Dyma gyfle i chi rannu diweddariadau pwysig am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lawr gwlad, a chasglu’r enghreifftiau o bobol sy’n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau.
- Gohirio digwyddiadau, ond llu o drigolion yn ein pentrefi a threfi yn dechrau system cyfaill i helpu’r henoed a’r rhai mewn angen.
Mae aelodau CFfI Cwmann ar gael i helpu unrhyw un sydd angen cymorth o fewn y gymuned gyda siopa bwyd, casglu meddiginiaeth a sgwrs ffon.
Mae dyddiad cau newyddion rhifyn Ebrill Papur Bro Clonc Dydd Llun nesaf 23ain Mawrth. Danfonwch eich newyddion a’ch lluniau atom.
Ond a fydd cynhyrchu’r papur yn bosibl? Beth am blygu a dosbarthu yng nghysgod y Coronafeirws?
Beth am y gwerthiant? Gallwn wynebu tipyn o golled.
Ar y llaw arall bydd mwy o alw nag erioed am ddeunydd darllen oherwydd yr hunan ynysu.
Mwy o fanylion i ddilyn.
Gyda chalon drom mae Kees Huysmans wedi penderfynu rhoi’r gorau i ymarferion Côr Pam Lai? yn Llanbed oherwydd cyfyngiadau’r Coronafeirws. Gan ddiolch i’r criw hwyliog a fynychai’r ymarferion, gobeithia ail gynnau’r brwdfrydedd yn y dyfodol agos.
Mae arwerthiant blynyddol Capel Aberduar Llanybydder heno wedi cael ei ganslo.
— Cyngor Ceredigion (@CSCeredigion) March 18, 2020
Busnes Bro y dydd – sylw i siop D L Williams ar stryd fawr Llanbed.
Hoffai eich busnes chi gael hwb a sylw ychwanegol yn y cyfnod heriol yma? Rhowch wbod isod!
Busnes bro y dydd – D. L. Williams, Llanbed
Côr agored ar Facebook yn codi calon
Wrth ymateb i’r holl newyddion am y coronafeirws ar hyd gwefannau cymdeithasol a’r cyfryngau mae rhai wedi mynd ati i geisio codi calonnau gyda chân, yng ngwir draddodiad y Cymry.
Syniad Catrin Angharad Jones o Ynys Môn ydi’r dudalen Facebook “CÔR-ONA!”
Mae Catrin yn gyn-athrawes, yn gantores, arweinyddes, beirniad a nawr yn helpu i ddiddanu’r genedl a’r rhai sydd wedi gorfod ynysu eu hunain yn barod.
Ers i’r dudalen ymddangos fore dydd Mawrth, (Mawrth 17), mae dros 4,000 o aelodau wedi ymuno, os hoffech chi ymuno yn yr hwyl cliciwch yma.
Darllenwch fwy am y stori ar golwg360
Gwyliau’r Pasg i ddechrau’n gynnar
YN TORRI: Ysgolion Cymru i gau erbyn dydd Gwener #newyddion https://t.co/qdZWvbOuLd
— golwg360 (@Golwg360) March 18, 2020
Stori newydd am yr ymateb gan fusnesau stryd fawr Llanbed i’r helynt:
“Mae stwff garddio wedi mynd yn mental” – sut mae busnesau Llanbed yn ymdopi?
Mae diogelwch ein gwirfoddolwyr, cefnogwyr, ymwelwyr, cystadleuwyr, artistiaid a staff yn hollbwysig i ni, felly mae angen i ni gydweithio gyda phawb i gefnogi ein cymunedau yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae’r sefyllfa sy’n wynebu’r Eisteddfod Genedlaethol, fel cymaint o ddigwyddiadau eraill ym mhob cwr o Gymru, yn newid yn ddyddiol, ac rydym yn parhau i adolygu a datblygu ein cynlluniau er budd pawb ar hyn o bryd. Rydym yn parhau i fonitro datblygiadau ynghyd â’r canllawiau a’r cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru, ein partneriaid allweddol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Byddwn yn diweddaru pawb drwy gyfrwng ein cylchlythyr, ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol a’r wasg a’r cyfryngau yn rheolaidd gydag unrhyw newyddion neu gyhoeddiadau. Dylech sicrhau eich bod wedi cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr, a gellir gwneud hyn drwy’r wefan, www.eisteddfod.cymru.
Rydym yn ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth barhaus.
Mae’r wybodaeth isod yn gyfredol ar ddydd Mercher 18 Mawrth 2020.
Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion
Rydym yn monitro’r sefyllfa’n barhaus ac mewn cysylltiad dyddiol gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid allweddol. Ar hyn o bryd, ein gobaith yw cynnal Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron o 1-8 Awst, ac mae’r staff yn parhau i weithio’n galed er mwyn gwireddu hyn.
Os bydd newid i’r cynlluniau hyn, byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol gyda stondinwyr, carafanwyr, contractwyr, rhanddeiliaid a’n holl dimoedd ar lawr gwlad, ac yn hysbysu pawb arall drwy’r sianeli a amlinellwyd uchod.
Mae’r neges yma’n berthnasol i garafanwyr, stondinwyr a’r rheini sydd eisoes wedi archebu tocynnau ar gyfer Maes B.
Gweithgareddau Cymunedol
Mae nifer fawr o weithgareddau lleol wedi’u trefnu ar draws dalgylch Eisteddfod Ceredigion a Llŷn ac Eifionydd dros yr wythnosau nesaf. Gyda Llywodraeth y DU yn annog pobl i ddechrau osgoi cyswllt cymdeithasol, rydym yn teimlo y dylid mynd ati i ohirio gweithgareddau codi arian ar hyn o bryd.
Rydym yn mawr obeithio y bydd modd ail-gydio yn yr ymgyrchu yn fuan, ond am y tro, mae’n bwysig ein bod ni’n cymryd sylw o’r cyngor sydd wedi’i roi gan arbenigwyr meddygol.
Ar hyn o bryd, mae’n bwysig ein bod ni’n canolbwyntio unrhyw gyswllt cymdeithasol ar helpu ein gilydd, ac rydym yn sicr y bydd nifer fawr o’n cefnogwyr ar lawr gwlad yn mynd ati i gefnogi a chynnig cymorth i rai sy’n fwy bregus o fewn ein cymdeithas.
Rydym yn galw arnoch oll i gymryd gofal yn ystod cyfnod a fydd yn anodd, ac rydym yn gobeithio y gallwn ail-afael yn y gwaith cymunedol yn fuan iawn.
Cyfarfodydd Pwyllgorau
Mae cyfarfodydd pwyllgorau’r Eisteddfod wedi’u gohirio ar hyn o bryd. Byddwn yn cysylltu gyda phob pwyllgor er mwyn cadarnhau hyn, ac edrych ar ffyrdd amgen o gadw mewn cysylltiad.
Os ydych yn aelod o bwyllgor ac angen gwybodaeth, cysylltwch â chadeirydd y Pwyllgor neu’r swyddog yn Swyddfa’r Eisteddfod sy’n gweinyddu eich pwyllgor.
Cystadlaethau Cyfansoddi
1 Ebrill yw’r dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau cyfansoddi Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion. Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau hwyr, felly dylech sicrhau bod eich ceisiadau’n cyrraedd Swyddfa’r Eisteddfod yn Yr Wyddgrug erbyn y dyddiad hwn. Mae cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cau ar 31 Mawrth.
Cystadlaethau Llwyfan
1 Mai yw’r dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau llwyfan ar hyn o bryd. Byddwn yn monitro ac yn asesu’r sefyllfa ac yn darparu gwybodaeth i’n cystadleuwyr a’n darpar-gystadleuwyr wrth i’r sefyllfa ddatblygu dros yr wythnosau nesaf.
Rydym yn annog grwpiau torfol i ddilyn cyngor y Llywodraeth a’r arbenigwyr meddygol. Rydym yn ymwybodol bod bandiau pres wedi derbyn cyngor gan y Gymdeithas Bandiau Pres yn eu hannog i ganslo pob ymarfer ar hyn o bryd, ac rydym yn credu y dylai pob côr a pharti sy’n ystyried cystadlu eleni ddilyn yr un cyngor.
Nid yw’r cyngor hwn yn berthnasol i unigolion sy’n bwriadu neu’n ystyried cystadlu.
Côr yr Eisteddfod
Ni fydd Côr yr Eisteddfod na Chôr y Gymanfa Ganu’n cyfarfod i ymarfer ar hyn o bryd. Mae’r penderfyniad hwn wedi’i gymryd yn dilyn cyngor gan Lywodraeth y DU a’r arbenigwyr meddygol.
Byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol gyda’r côr ynglŷn â hyn ac yn cyfathrebu’n rheolaidd gyda’r aelodau dros yr wythnosau nesaf wrth i’r sefyllfa ddatblygu.
Cysylltu â Swyddfa’r Eisteddfod
Mae’r Eisteddfod yn annog eu holl staff i weithio o gartref o ddydd Mawrth, 17 Mawrth ymlaen. Ni fydd ein staff yn teithio i gyfarfodydd wyneb yn wyneb dros yr wythnosau nesaf, a byddwn yn gwneud defnydd llawn o fideo-gynadledda, gan ddefnyddio systemau fel Zoom, Skype a facetime.
Er hwylustod, cysylltwch â ni drwy e-bost yn y lle cyntaf, gan gysylltu â gwyb@eisteddfod.org.uk os nad ydych yn sicr gyda phwy y dylech fod yn cysylltu.
Bydd staff yn parhau i weithio oriau arferol yn ystod y cyfnod hwn, ac yn barod iawn i’ch helpu a’ch cynghori ar unrhyw fater sy’n ymwneud â’n gwaith.