Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal Clonc360.
Dyma gyfle i chi rannu diweddariadau pwysig am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lawr gwlad, a chasglu’r enghreifftiau o bobol sy’n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau.
- Gohirio digwyddiadau, ond llu o drigolion yn ein pentrefi a threfi yn dechrau system cyfaill i helpu’r henoed a’r rhai mewn angen.
Mae Evans Bros wedi cyhoeddi y cynhelir Marchnad Defaid yn Llanybydder ar y 6ed o Ebrill, ond gorfodir rheolau llym er lles iechyd pawb.
Ni chaniateir y perchnogion yn y farchnad o gwbl, dim ond prynwyr yn yr adraloedd gwerthu. Mwy o fanylion ar y poster.
Os ydych yn cael ffwdan argraffu copi o rifyn digidol Papur Bro Clonc ar gyfer darllenwyr heb offer digidol, mae siop Y Stiwdio Brint, Llanbed yn gallu helpu.
Er bod y siop ar gau, mae Ashley yn galw mewn o bryd i’w gilydd er mwy siecio ar y peiriannau. Gallwch drefnu cwrdd ag e yno pan fydd yn mynd i’r siop a gall argraffu copi i chi am dâl fach. Cysylltwch ag Ashley ar 07811 767563 i weld pryd fydd e yno nesaf, a chofiwch gadw pellter cymdeithasol.
J H Roberts a’i feibion
Mae’r siop ar gau dros dro, ond yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth, hoffwn eich hysbysu y byddwn ar gael yno i dderbyn galwadau ffôn (01570 422055) rhwng 10yb a 1yp ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener i gwsmeriaid sydd mewn sefyllfa o argyfwng ac sydd angen nwyddau allweddol i’r cartref yn unig. Gallwch gysylltu â ni ar ein tudalen Facebook unrhyw amser.
Diolch a chadwch yn saff,
Alwyn ac Alwena.
Mae Gŵyl Fwyd Llanbed eleni wedi’i ganslo.
Ma rhaid i Gyngor Cymuned Llanybydder ddilyn guidelines o’r awdurdod lleol a’r llywodraeth.
Oherwydd hyn yn anffodus ma rhaid i ni gau y Parc sydd yn y ddau bentref.
Ma ddrwg gennym ein bod yn gorfod neud hyn ond fe helpith stopio y firws rhag lledaenu.
#PlisAroshwchGartref
Does dim Gwasanaeth Rhoi Gwaed yn Llanbed heddiw. Y cyfle nesaf fydd yr 21ain Ebrill yn Nhregaron.
Lledwch y neges!
Ni yma i’ch helpu a bod o gymorth mewn amser anodd!
Cysylltwch!
Darparu gofal i blant gweithwyr allweddol Sir Gaerfyrddin
Yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch cau ysgolion, mae angen darparu gwasanaethau gofal plant i sicrhau parhad gwasanaethau rheng flaen.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn rhoi mesurau ar waith i agor nifer cyfyngedig o ysgolion i ddarparu gofal i blant gweithwyr allweddol o ddydd Llun, Mawrth 23.
Mae’n hanfodol bwysig bod rhieni yn dilyn cyngor y Llywodraeth ac yn cadw eu plant gartref lle bo modd i helpu i atal lledaeniad coronafeirws (Covid-19).
Os yw eich gwaith yn hollbwysig i’r ymateb i COVID-19 neu os ydych yn gweithio yn un o’r sectorau critigol a restrir isod, ac nad yw eich plentyn yn gallu aros gartref, yna rhoddir blaenoriaeth i’ch gofal plant.
- Iechyd a gofal cymdeithasol
- Addysg a gofal plant
- Gwasanaethau cyhoeddus allweddol
- Llywodraeth leol a chenedlaethol
- Bwyd a nwyddau angenrheidiol eraill
- Diogelwch y cyhoedd a diogelwch cenedlaethol
- Trafnidiaeth
- Cyfleustodau, cyfathrebu a gwasanaethau ariannol
Canolfannau gofal plant
Darperir gwasanaethau gofal plant o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am – 6pm o’r dyddiadau a nodir yn y lleoliadau canlynol:
O ddydd Llun, Mawrth 23 (plant 4 – 12 oed)
O ddydd Mercher, Mawrth 25 (plant 0* – 12 oed)
- Ysgol Penrhos, Llanelli
- Ysgol Bro Banw, Rhydaman
- Ysgol y Dderwen, Caerfyrddin
- Ysgol Gynradd Porth Tywyn
- Ysgol y Felin, Llanelli
- Ysgol Tre Ioan, Caerfyrddin
- Ysgol y Ddwylan, Castellnewydd Emlyn
- Ysgol Griffith Jones, Sanclêr
- Ysgol Gynradd Llandeilo
- Ysgol Rhys Prichard
- Ysgol Brynaman
- Ysgol Pontyberem
- Ysgol Carreg Hirfaen
*Ar gyfer plant 0-3 oed rhoddir help rhieni i ddod o hyd i leoedd gofal plant gyda darparwyr gofal plant cofrestredig yn Sir Gaerfyrddin.
Mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu’n barhaus a bydd darpariaeth ychwanegol yn y dyfodol yn seiliedig ar y galw.
Sut i gofrestru ar gyfer gofal plant
Os ydych yn weithiwr allweddol a bod angen gofal plant arnoch, llenwch y ffurflen archebu isod. Bydd e-bost yn cael ei anfon atoch wedyn i gadarnhau bod lle gan eich plentyn/plant. Mae’n bwysig iawn nad yw rhieni yn dod i’r canolfannau os nad ydynt wedi derbyn e-bost cadarnhau.
Mae’n anodd iawn gwybod ar hyn o bryd faint o alw fydd, a rhoddir mesurau hyn ar waith yn gyflym iawn. Bydd y Cyngor Sir yn gwneud ei orau i ddarparu ar gyfer cynifer o blant ag y gallant, ond gofynnir i rieni fod yn amyneddgar wrth i ni roi’r trefniadau hyn ar waith.
Y nod yw datblygu gwasanaeth cynaliadwy fel y gellir sicrhau darpariaeth barhaus ar adeg ansicr ac anodd.
Bydd angen llenwi ffurflen archebu bob wythnos i wneud cais am ddarpariaeth gofal plant ar gyfer yr wythnos ganlynol. Hysbysir rhieni cyn gynted â phosibl erbyn pryd y bydd angen y wybodaeth hon arnom.
Cwblhewch y ffurflen ar wefan y cyngor erbyn 2pm ddydd Sadwrn, 21 Mawrth i gael gofal plant ar gyfer dydd Llun a dydd Mawrth wythnos nesaf.
Coronafeirws: Gwasanaethau Gwastraff Cyngor Sir Ceredigion
20 Mawrth 2020
Yn sgil y sefyllfa sy’n newid yn gyflym mewn perthynas â’r Coronafeirws, bydd y canlynol yn cael eu rhoi ar waith ynghylch y Gwasanaethau Gwastraff.
- O ddiwedd y dydd, ddydd Sul 22 Mawrth 2020, bydd y Safleoedd Gwastraff Cartref canlynol a weithredir ar ran Cyngor Sir Ceredigion yn cau hyd nes y ceir hysbysiad pellach:
- Aberystwyth
Ystâd Ddiwydiannol Glanyrafon, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth. SY23 3JQ - Aberteifi
Cilmaenllwyd, Penparc, Aberteifi. SA43 1RB - Llanbedr Pont Steffan
Yr Ystâd Ddiwydiannol, Ffordd Tregaron, Llanbedr Pont Steffan. SA48 8LT - Llanarth
Rhydeinon, Llanarth. SA47 0QP
- O ddiwedd y dydd, ddydd Gwener 20 Mawrth 2020, bydd pob gwasanaeth casglu Gwastraff Cartref Swmpus a Gwastraff Gardd yn cael eu gohirio hyd nes y ceir hysbysiad pellach.
- O ddiwedd y dydd, ddydd Gwener 20 Mawrth 2020, hyd nes y ceir hysbysiad pellach, ni fyddwn yn derbyn ceisiadau newydd ar gyfer cadis bwyd na bocsys gwydr.
- Byddwn yn parhau i ymdrechu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff craidd fel yr hysbyswyd.
-
- Rhoddir blaenoriaeth i gasgliadau gwastraff gweddilliol (bagiau duon), gwastraff bwyd a Chynnyrch Hylendid Amsugnol (AHP).
- Os nad yw hi’n bosib darparu casgliadau fel yr hysbyswyd, cadwch eich gwastraff yn eich cartref ac arhoswch am wybodaeth bellach.
- Helpwch ni i ddiogelu ein staff casglu gwastraff drwy wneud y canlynol:
- Rhoi eich holl wastraff personol (megis hancesi wedi’u defnyddio) a chadachau glanhau yn eich bag du a chlymu’r bag.
- Clymu bag sbwriel ychwanegol o amgylch eich holl wastraff.
- Bwriedir darparu cyflenwad o fagiau ailgylchu clir a leinwyr bin bwyd i leoliadau yn y gymuned gan gynnwys:
-
- Banciau Gwydr Cymunedol
- Y tu allan i swyddfeydd canlynol y Cyngor:
- Neuadd Cyngor Ceredigion, Penmorfa, Aberaeron, SA46 0PA
- Aberystwyth, Swyddfeydd y Cyngor, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE
- Llanbedr Pont Steffan, Swyddfeydd y Cyngor / Llyfrgell, Swyddfeydd y Cyngor, Stryd y Farchnad, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7DS
- Aberaeron, Swyddfeydd y Cyngor / Llyfrgell, Neuadd y Sir, Heol y Farchnad, Aberaeron, SA46 OAT
- Aberteifi, Swyddfeydd y Cyngor / Llyfrgell, Swyddfeydd y Cyngor, Stryd Morgan , Aberteifi, SA43 1DG
er mwyn i’r cyhoedd gael rhagor o gyflenwadau. Bydd y rhain yn cael eu rhoi mewn biniau olwynion ar y safleoedd hyn, a byddant wedi’u dynodi’n glir.
DEFNYDDIWCH Y RHAIN YN GYNNIL A CHYMERWCH YR HYN SYDD EI ANGEN ARNOCH YN UNIG! Byddwn yn ceisio darparu rhagor o gyflenwadau lle bo hynny’n bosib. Rydym yn gobeithio y bydd y cyflenwadau ar gael erbyn diwedd yr wythnos sy’n dechrau 23 Mawrth 2020.
Estynnwn ein diolch diffuant i’r holl drigolion am eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth. Drwy weithio gyda ni yn ystod y cyfnod anodd hwn, gallwn sicrhau bod gwahanol fathau o wastraff yn cael eu rheoli cystal â phosib a bod Ceredigion yn cael ei chadw’n lân.
Byddwn yn ceisio darparu rhagor o wybodaeth a chyngor pan fo hynny’n bosib er mwyn ymateb i newidiadau yn y sefyllfa.
Darpariaeth gofal plant i weithwyr gwasanaethau rheng flaen yng Ngheredigion
20 Mawrth 2020
Mae trefniadau yn cael eu rhoi ar waith er mwyn darparu gwasanaethau gofal plant i weithwyr rheng flaen yng Ngheredigion.
Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd ysgolion yn cau o fewn y Sir, mae angen gwasanaethau gofal plant er mwyn sicrhau parhad y gwasanaethau rheng flaen.
I ddechrau, Cyngor Sir Ceredigion yn ystyried mai gweithwyr y Gwasanaeth Iechyd, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, Gwasanaethau Cymdeithasol neu Wasanaethau Gofal yw’r gwasanaethau rheng flaen. Mae gweithwyr y Gwasanaethau Gofal yn cynnwys gweithwyr yng nghartrefi gofal y Cyngor, cartrefi preifat yr awdurdod, a’r rheini sy’n darparu gofal cartref yng nghartrefi pobl o fewn yr awdurdod. Byddwn yn adolygu hyn yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru.
Mae pum lleoliad ar draws Ceredigion a fydd yn darparu gofal plant o ddydd Llun ymlaen, sef y canlynol:
- Canolfan Integredig Plant (Canolfan Enfys Teifi)
- Ysgol Gynradd Aberaeron
- Ysgol Dyffryn Cledlyn, Drefach
- Ysgol Y Dderi, Llangybi
- Ysgol Gymraeg Aberystwyth
Bydd y gwasanaeth ar gael saith diwrnod yr wythnos rhwng 8.00am a 6.00pm hyd nes y bydd yr ysgolion yn ail-agor. Bydd disgwyl i rieni ddarparu pecyn bwyd i’w plant oherwydd ni fydd y gwasanaeth yn darparu bwyd. Gall y lleoliadau newid yn amodol ar y galw.
Nid disodli’r gwasanaeth a ddarperir gan ddarparwyr gofal plant preifat yw bwriad y gwasanaeth, ond cynyddu’r capasiti pan fydd ysgolion yn cau ddydd Gwener.
Mae rhieni’n gallu cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn electronig ac archebu’r sesiynau sydd eu hangen arnynt ar sail wythnosol. Am ragor o wybodaeth ac er mwyn cofrestru, ewch i’r wefan: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/gofal-plant-i-weithwyr-allweddol/