Blog byw am yr effeithiau a’r datblygiadau diweddaraf ynghylch Covid 19 yn ardal Clonc360.
Dyma gyfle i chi rannu diweddariadau pwysig am ddigwyddiadau a gweithgareddau ar lawr gwlad, a chasglu’r enghreifftiau o bobol sy’n gwneud pethe positif dros eraill yn ein cymunedau.
- Gohirio digwyddiadau, ond llu o drigolion yn ein pentrefi a threfi yn dechrau system cyfaill i helpu’r henoed a’r rhai mewn angen.
Rydym wedi rhannu rhagor o gyn rifynnau Papur Bro Clonc ar ein gwefan. Gall bori drwyddynt fod yn eithaf diddorol. Rhywbeth i’ch diddanu’n tra’n hunanynysu.
Gwerthir 380 o wartheg ym Mart Llanybydder ddydd Sadwrn 11eg o Ebrill o dan fesurau caeth rheolau iechyd a diogelwch. Bydd y prynwyr i gyd yn bresennol ond y gwerthwyr i adael eu gwartheg yno a mynd. Gobaith Evans Bros yw darlledu’r arwerthiant yn fyw ar y we.
Mae Evans Bros wedi cyhoeddi y cynhelir Marchnad Defaid yn Llanybydder ar y 6ed o Ebrill, ond gorfodir rheolau llym er lles iechyd pawb.
Ni chaniateir y perchnogion yn y farchnad o gwbl, dim ond prynwyr yn yr adraloedd gwerthu. Mwy o fanylion ar y poster.
Os ydych yn cael ffwdan argraffu copi o rifyn digidol Papur Bro Clonc ar gyfer darllenwyr heb offer digidol, mae siop Y Stiwdio Brint, Llanbed yn gallu helpu.
Er bod y siop ar gau, mae Ashley yn galw mewn o bryd i’w gilydd er mwy siecio ar y peiriannau. Gallwch drefnu cwrdd ag e yno pan fydd yn mynd i’r siop a gall argraffu copi i chi am dâl fach. Cysylltwch ag Ashley ar 07811 767563 i weld pryd fydd e yno nesaf, a chofiwch gadw pellter cymdeithasol.
J H Roberts a’i feibion
Mae’r siop ar gau dros dro, ond yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth, hoffwn eich hysbysu y byddwn ar gael yno i dderbyn galwadau ffôn (01570 422055) rhwng 10yb a 1yp ar ddydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener i gwsmeriaid sydd mewn sefyllfa o argyfwng ac sydd angen nwyddau allweddol i’r cartref yn unig. Gallwch gysylltu â ni ar ein tudalen Facebook unrhyw amser.
Diolch a chadwch yn saff,
Alwyn ac Alwena.
Mae Gŵyl Fwyd Llanbed eleni wedi’i ganslo.
Ma rhaid i Gyngor Cymuned Llanybydder ddilyn guidelines o’r awdurdod lleol a’r llywodraeth.
Oherwydd hyn yn anffodus ma rhaid i ni gau y Parc sydd yn y ddau bentref.
Ma ddrwg gennym ein bod yn gorfod neud hyn ond fe helpith stopio y firws rhag lledaenu.
#PlisAroshwchGartref
Does dim Gwasanaeth Rhoi Gwaed yn Llanbed heddiw. Y cyfle nesaf fydd yr 21ain Ebrill yn Nhregaron.
Lledwch y neges!
Ni yma i’ch helpu a bod o gymorth mewn amser anodd!
Cysylltwch!