Pentref Llanllwni oedd canolbwynt cyfres newydd “Ni’n Teithio Nawr” gyda’r Welsh Whisperer ar S4C neithiwr ac roedd yn rhaglen ddiddorol iawn sy’n adlewyrchu bywyd a phobl yr ardal mewn ffordd sionc a chyfoes iawn.
Dechreua’r rhaglen yn eglwys hynafol Maesycrugiau gyda’r Welsh Whisperer yn cyfwelad â’r Hybarch Eileen Davies lle sonia am ei gwaith amrywiol yn ffarmio gyda’i gŵr yn y Gwndwn ac yna fel Archddeacon.
Ceir golygfeydd trawiadol o’r awyr a ffilmiwyd nôl yn ystod mis Awst y llynedd a braf oedd cael gwerthfawrogi harddwch yr afon Teifi a holl wyrddni’r ardal o gwmpas pentref hiraf Cymru.
Gwelir y ddwy chwaer ifanc, Sioned a Siriol Howells, yn brysur ym mharlwr godro Gwarallt gyda’u tad Arwel gyda’r Welsh Whisperer yn siarad â’u tad-cu Ken yn ogystal.
Ymwelir â melin goed brysur T L Thomas a’i fab sy’n cyflogi cymaint o bobl yn yr ardal a siaredir â Gerwyn ac Anwen Thomas sy’n rhedeg y cwmni teuluol proffesiynol gyda’u merch Sara.
Ymwelir â Mart Ceffylau adnabyddus Llanybydder a gwelir bwrlwm y diwrnod arbennig hwnnw yn y pentref. Ceir cyfle i sgwrsio â Mark Evans yr arwerthwr cydwybodol a’i ferch Ffion sy’n gwneud bob math o waith hanfodol cefndirol gyda chwmni Evans Bros hefyd.
Tra yn Llanybydder, aeth y Welsh Whisperer i ymweld â’r Cynghorydd Ieuan Davies er mwyn twtio ychydig ar ei fwstas!
Roedd yn wych i weld aelodau’r CFfI yn cael sylw hefyd gan eu bod yn gymaint o ran o fywyd cymdeithasol y pentref.
Rhaid dweud i mi fwynhau’r rhaglen yn fawr iawn a rhaid peidio anghofio perfformiad y Welsh Whisperer o’r gân am Lanllwni gyda merched Sorela yn canu cefndir.
Ailddarlledir y rhaglen ar S4C nos Lun nesaf am 9.30 o’r gloch a dydd Iau am 1.30 y prynhawn. Gellir hefyd ail wylio ar S4C Clic a BBC iplayer.