Y stori orau ar Clonc360 yn 2020: dewis y bobol

Cyfle i bobol Llanbed a’r cylch bleidleisio am eich hoff stori leol

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mewn blwyddyn lle mae golygon cymaint ohonom wedi troi at ein milltir sgwâr, rydym wedi gweld cynnydd anhygoel yn y defnydd o’r gwefannau bro. Mae’r 7 gwasanaeth lleol-iawn wedi bod yn ffynhonnell amhrisiadwy o straeon, gwybodaeth a difyrrwch i gymaint o bobol eleni. Maent hefyd wedi bod yn gofnod o sut fu bywyd pobol a’n cymunedau yn ystod un o’r blynyddoedd mwyaf rhyfedd mewn cof.

Er gwaetha’r Covid – y canslo a’r diffyg dod ynghyd arferol – cyhoeddwyd dros 1230 o straeon bro yn 2020, ac erbyn hyn mae dros 430 o bobol leol wedi cyhoeddi stori ar eu platfform lleol.

I ddathlu hynny, bydd Bro360 yn cynnal seremoni wobrwyo ym mis Ionawr, lle byddwn yn cyhoeddi eich hoff straeon chi ar bob gwefan fro!

Rhestr fer Clonc360

Dyma’r 6 stori fwyaf poblogaidd (yn ôl yr ystadegau) ar Clonc360 eleni. Porwch trwyddynt, a phleidleisiwch trwy bwyso’r botwm ’diolch’ ar waelod eich hoff stori.

  • Anrhydeddu pencampwraig y peli, gog gweithgar a chloncen brysur – Dylan Lewis

Anrhydeddu Pencampwraig y Peli, Gog Gweithgar a Chloncen Brysur.

Dylan Lewis

Tair menyw leol i’w hurddo i Wisg Las yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

 

  • Bu farw gweinidog Brondeifi yn 59 oed – Dylan Lewis 

Bu farw Gweinidog Brondeifi yn 59 oed

Dylan Lewis

Pawb mewn sioc o glywed am farwolaeth y Parchedig Alun Wyn Dafis.

 

  • Cau lens y camera am y tro olaf – Twynog Davies 

Cau lens y camera am y tro olaf

Twynog Davies

Y Ffotograffydd Tim Jones yn rhoi’r gorau i dynnu lluniau

 

  • Cynlluniau am archfarchnad arall yn Llanbed – Dylan Lewis 

Cynlluniau am archfarchnad arall yn Llanbed

Dylan Lewis

Gwefan fusnes yn datgelu cynlluniau i sefydlu archfarchnad arall yn yr ardal.

 

 

  • Oriel Jones – colli cymeriad, cymwynaswr a chyflogwr lleol – Dylan Lewis 

Oriel Jones – colli cymeriad, cymwynaswr a chyflogwr lleol

Dylan Lewis

Bu farw’r dyn busnes a roddodd Llanybydder ar y map.

 

Felly, dyna’r 6 ddaeth i’r brig o ran yr ystadegau. Ond pa un sy’n dod i’r brig i chi?

Pleidleisiwch, trwy…

  1. mewngofnodi neu ymuno â’r wefan hon (creu cyfrif)
  2. mynd i’ch hoff stori
  3. pwyso’r botwm ’diolch’ ar waelod y stori honno (neu hoffi’r fideo Facebook os dyna eich dewis)

Bydd eich hoff stori ar Clonc360 yn cael ei chyhoeddi mewn seremoni wobrwyo arbennig ddiwedd mis Ionawr.